Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
29 Mehefin 2016
Amser y
cyfarfod: 13.30
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.
(0 munud)
Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau.
(60 munud)
NDM6026
David Melding
(Canol De Cymru)
Julie Morgan
(Gogledd Caerdydd)
Lee Waters
(Llanelli)
Llyr Gruffydd
(Gogledd Cymru)
Neil Hamilton
(Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru archwilio ffyrdd o gryfhau dulliau gweithio rhwng adrannau i wella canlyniadau ar gyfer plant sy'n derbyn gofal.
Cefnogir gan:
Lynne Neagle (Torfaen)
Nick Ramsay (Mynwy)
Suzy Davies (Gorllewin De Cymru)
Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir
Benfro)
Mark Isherwood (Gogledd Cymru)
Janet Finch-Saunders (Aberconwy)
(30 munud)
NDM6052 Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn credu y dylai Bil Cymru wneud darpariaeth i alluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru i gyflwyno pleidlais sengl drosglwyddadwy ar bob lefel, ac eithrio etholiadau i Senedd Ewrop a Thŷ'r Cyffredin, er mwyn sicrhau cynrychiolaeth deg ar gyfer pob safbwynt wleidyddol.
Cyflwynwyd y Gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu popeth ar ôl "Cynulliad Cenedlaethol Cymru i" ac yn ei le rhoi "benderfynu ar drefniadau etholiadol sydd ar gyfer Cymru yn unig yn y dyfodol."
(30 munud)
NDM6053
Simon Thomas
(Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn credu y dylai:
(a) egwyddorion llywodraeth agored gael eu cynnal ym mhob maes cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru;
(b) y Cod Gweinidogol gael ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a chael ei gymeradwyo ganddo; ac
(c) dyfarnwr annibynnol gael ei benodi i adrodd yn gyhoeddus ar unrhyw achosion o dorri'r Cod.
'Cod Gweinidogol Llywodraeth Cymru - Mai 2016'
Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 –
Jane Hutt (Bro
Morgannwg)
Dileu is-bwyntiau (b) ac (c) a rhoi pwynt newydd yn eu
lle:
Yn nodi ymrwymiad gan Brif Weinidog Cymru i ymchwilio i ffyrdd o gryfhau Cod y Gweinidogion a'r modd y mae'n gweithredu.
Gwelliant 2 –
Paul Davies
(Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y byddai bod yn agored a thryloyw yn y broses gwneud penderfyniadau yn cael ei gwella drwy sicrhau bod penodiadau allweddol, gan gynnwys y Comisiynydd Plant, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, y Comisiynydd Pobl Hŷn a Chomisiynydd y Cymraeg, yn cael eu gwneud gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yn hytrach na Llywodraeth Cymru.
Gwelliant 3 -
Paul Davies
(Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymateb yn ffurfiol i'r pryderon a godwyd ym maniffesto plaid Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg bod Gweinidogion Cymru wedi gallu torri'r Cod Gweinidogol heb gosb.
(60 munud)
NDM6050 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod y rhan y mae llygredd aer yn ei chwarae yng nghanlyniadau iechyd cymunedau ledled Cymru.
2. Yn nodi bod Sefydliad Iechyd y Byd wedi canfod bod llygredd gronynnol wedi codi wyth y cant yn fyd-eang yn y pum mlynedd diwethaf, gydag arbenigwyr yn y DU yn credu bod tua 29,000 o farwolaethau yn gysylltiedig â llygredd aer.
3. Yn mynegi pryder ynghylch lefel y llygredd aer yng Nghymru, gan nodi mai yng Nghrymlyn, yng Nghaerffili, y mae'r lefelau uchaf o nitrogen deuocsid wedi'u cofnodi y tu allan i Lundain, a bod tystiolaeth a ddarparwyd mewn ymateb i ymgynghoriad gan GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru yn 2015 wedi canfod cysylltiad uniongyrchol rhwng llygredd aer a chynnydd mewn achosion o glefyd anadlol.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth allyriadau isel effeithiol, mewn ymgynghoriad â rhanddeiliaid, i leihau allyriadau llygryddion aer.
'World Health Organisation Global Urban Ambient Air Pollution Database' [Saesneg yn unig]
Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 -
Simon Thomas
(Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cynnwys fel pwynt 4 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:
Yn condemnio arferion rhai gwneuthurwyr ceir o leihau allyriadau
gronynnau o danwydd diesel yn artiffisial a chamarwain
defnyddwyr.
Gwelliant 2 - Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw am lwybrau beicio a cherdded diogel i alluogi pobl i wella
eu hiechyd ac amgylchedd drwy deithio llesol.
(30 munud)
NDM6051 Rhianon Passmore (Islwyn)
Ysgolion yr 21ain Ganrif: Mwy na rhaglen adeiladu.
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 5 Gorffennaf 2016